Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2019
Amser:
09.00 -
10.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5288
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Julie Morgan AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Gareth Griffiths, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i:
· ofyn am ei barn yn benodol mewn perthynas â rhinweddau ac ymarferoldeb galwad y ddeiseb am wahardd neu foratoriwm ar y defnydd o bensaernïaeth elyniaethus yng Nghymru;
· gofyn iddi ystyried cyflwyno nodyn cyngor technegol ynghylch y defnydd o bensaernïaeth elyniaethus; a
· gofyn iddi pa fesurau rheoli ym maes cynllunio y gellid eu gweithredu er mwyn darparu goruchwyliaeth agosach ar gread pensaernïaeth elyniaethus yn ôl-weithredol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg i ofyn pa asesiad neu waith ymchwil sydd wedi ei wneud mewn perthynas â digonolrwydd yr opsiynau sydd ar gael ar fwydlenni ysbytai ac ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd i bobl sy'n dilyn deiet fegan.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y cadarnhad a gafwyd bod polisi Llywodraeth Cymru wedi ei ddiwygio gan olygu y bydd Gweinidogion yn cael eu hysbysu ynghylch, ac yn ystyried ailystyried, bob cais cynllunio yn y dyfodol ar gyfer datblygiadau olew a nwy anghonfensiynol, lle nad yw awdurdodau cynllunio lleol wedi penderfynu eu gwrthod.
Cytunodd y Pwyllgor i:
· aros tan cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch statws Bagloriaeth Cymru a'i anfon at y deisebydd iddo wneud sylwadau; ac
· ysgrifennu eto at CBAC i ofyn am ymateb ar y mater hwn ac i fynegi siom na chafwyd ymateb i'r ohebiaeth flaenorol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i wahodd y Gweinidog Addysg i ddod i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi rhagor o dystiolaeth ynghylch y mater.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i:
· ysgrifennu at y deisebwyr ac eraill i roi gwybod iddynt mai'r cam gweithredu priodol yw iddynt godi eu pryderon yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog Addysg a gofyn iddi ystyried a oes cyfiawnhad iddi ymyrryd yn yr achos hwn, fel yr amlinellir yn ei llythyr; a
· ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn iddi am ymateb i'r cynnig y dylid cael ffordd uniongyrchol i lywodraethwyr ysgolion apelio penderfyniadau a wneir o dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion, a gofyn iddi ddarparu manylion ynghylch unrhyw ystyriaeth a roddwyd i'r broses apeliadau yn ystod yr adolygiad o'r Cod.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunwyd ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygu gwasanaethau therapi seicolegol, gan gynnwys y cyllid a roddwyd i fyrddau iechyd, ers ei lythyr blaenorol ym mis Mehefin 2018.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunwyd i aros tan y cyhoeddiad a ddisgwylir ynghylch cyllid i gefnogi'r Rhaglen Gwella Bywydau a chanlyniad yr ymgynghoriad a gynhelir gan yr Adran Iechyd yn Lloegr, cyn ystyried pa gamau pellach i'w cymryd mewn perthynas â'r ddeiseb.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ymateb i'r wybodaeth a'r awgrymiadau a gynigiwyd gan Gyngor Sir Benfro, i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch asesiadau pellach a wnaed mewn perthynas â dyluniad y ffordd a diogelwch y cyffordd, a gofyn am gopi o'r adolygiad 36 mis RSA.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb a gofyn am unrhyw sylwadau sydd ganddi ynghylch priodoldeb a diogelwch plant sy'n defnyddio bysiau cyhoeddus i deithio i ac o'r ysgol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ac, yn sgil gwybodaeth a gafwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, cytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail ei bod yn ymddangos mai ychydig iawn yn fwy y gellid ei gyflawni ar yr adeg yma.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Safonau i ofyn:
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn tynnu sylw at y wybodaeth a dderbyniwyd gan ystod o randdeiliaid, a gofyn am ymatebion i'r pryderon a godwyd ynghylch defnyddio a rheoleiddio baglau Larsen yn ogystal â gwybodaeth bellach am unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd neu eu hystyried yn y maes hon.
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gareth Griffiths.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ofyn mewn chwe mis am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y broses bontio a chanlyniadau'r adolygiadau a gynhaliwyd gan weithwyr cymdeithasol annibynnol.